Baner Cymru

Bois y Castell

Logo Bois y Castell
hafan
cyswllt
cwrdd â'r côr
dolenni
cefndir
Clwb cerdded ByC ewch at eiriau y caneuon
Tudalen yr Aelodau

TREFNIADAU AR GYFER 2005

Nos Sadwrn, Ionawr 8ed - Cinio'r Côr - Llanymddyfri

 

TREFNIADAU AR GYFER 2004

NADOLIG 2004:

Nos Lun, Rhagfyr 13eg: Ymarfer yn Ysgol Gymraeg Teilo Sant - 8:00pm

Nos Fercher, Rhagfyr 15ed: Recordio ar gyfer rhaglen fore Nadolig BBC RADIO 4 - 5:30pm yng nghanolfan gymdeithasol Bethlehem, Llangadog

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 18ed: Canu - Plas Dinefwr - 2:15pm

Nos Sul, Rhagfyr 19eg: Ymarfer - festri Capel Newydd - 8:00pm

Nos Fawrth, Rhagfyr 21ain - Canu Carolau - trefniadau i ddilyn

*** COFIWCH - cinio'r côr - Nos Sadwrn, Ionawr 8ed, 2005 - Llanymddyfri. Manylion gan Gareth Vaughan Jones***

-------------------------------------------------------------------------------------

CHWEFROR:
28/2/04 Cyngerdd -Pontarddulias 7:00pm

MAI:
8/5/04 Cystadlu - Eisteddfod yr Hendy
21/5/04 Cyngerdd - Llandeilo – gyda Chôr Merched o’r Ffindir

GORFFENNAF:
2/7/04 Adloniant ar ôl cinio - Haliwell, Caerfyrddin - Cyngres Ffermwyr Llaeth Ewrop

MEDI:
16/9/04 Adloniant ar ôl cinio - Yr Hydd Gwyn, Llandeilo - Treialon Cwn Defaid Rhyngwladol

HYDREF:
** 2/10/04** Cyngerdd - Côr Rhuthun – Capel Newydd, Llandeilo
16/10/04 Cyngerdd - Capel Providence, Llangadog

TACHWEDD:
20/11/04 Cystadlu - Yr Wyl Gerdd Dant, Llandudno
26/11/04 Cyngerdd - Llanddarog

===============================================

NEWYDDION - Rhagfyr 2003

Cafwyd noson hwyliog a llwyddiannus wrth ganu carolau nos Iau (18/12/03). Llwyddwyd i godi £320.00 tuag at ein helusen. Yn ogystal â chodi swm da o arian roedd nifer o'r 'gwrandawyr' yn werthfawrogol iawn.

Dim ymarfer nawr tan nos Sul 25ain o Ionawr (noson Santes Dwynwen).

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth a'ch holl ymroddiad eleni eto i waith y côr. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a mwynhewch y seibiant. Nia.

NEWYDDION - diwedd Tachwedd - Rhagfyr 2003

Cofiwch am gyngerdd Yvone - Ysgol Tregib, nos Sadwrn 29/11/03

Cofiwch am y parti Nadolig - nos Wener, 12ed o Ragfyr, yn y Castell yn Llanymddyfri. Rhaid talu £12.50 y person i Arwyn Evans cyn gynted a phosib a rhoi eich enw i Gareth Vaughan Jones.

NI FYDD YMARFER wedyn tan nos Sul 14eg o Ragfyr. Fe fyddwn bryd hynny yn paratoi i fynd allan i ganu carolau - sef ar nos Iau 20ed o Ragfyr. Cwrdd wrth y capel am 7:00pm.

Fe fyddwn yn ail ddechrau nol wedyn ar nos Sul 11eg o Ionawr 2004, am 8:00pm YN BRYDLON!

NEWYDDION - Nos Sul 16eg o Dachwedd, 2003

Cofiwch am y Cyfarfod Blynyddol nos Sul yma am 8:00 yr hwyr. Fe fydd y manylion llawn yn y cyfarfod. Os oes angen rhagor o wybodaeth - cysylltwch gyda Gareth Vaughan Jones ar 01558-823839.

NEWYDDION: Nos Sul, 19eg o Hydref, 2003

Does dim ymarfer nos Sul nesaf ( 26ain o Hydref) ond fe fydd ymarfer ar nos Sul 2il o Dachwedd am 8:00pm. Fe fyddwn ni hefyd y noson honno yn cyflwyno dwy siec - un i Ymchwil Athritis ac un i Tenovus am yr arian a godwyd yn ystod y flwyddyn at achosion da.

Cofiwch am gyngerdd Yvone ar 29ain o Dachwedd - tocynnau ar gael gan Emyr Wyn a thrwy'r Fnter iaith. Mae'r tocynnau'n gwerthu'n dda... felly cynta i'r felin yw hi!

Welwn ni chi ar nos Sul 2il o Dachwedd.

Diolch. NIA.

-------------------------------------------------------------------------------------

NEWYDDION: Nos Sul 28ain o Fedi, 2003

Sori am ganslo'r ymarfer heno - ond ar hyn o bryd nid wyf yn hwylus a hynny oherwydd cefn poenus iawn.

Beth bynnag- dyma'r trefniadau ar gyfer nos Wener, 3ydd o Hydref - CINIO APEL S4C YNG NGHWESTY'R HANNER FFORDD, NANTGAREDIG:

Fe fyddwn yn canu: Dwyfol Un, Stesion Strata a Hafan Gobaith.

I'r rhai nad ydynt yn y ginio: cyfarfod yno erbyn 9:15pm. Gwisg - ffurfiol ond nid gwisg y cor. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Cefin Campbell, trefnydd y noson ar 01558-668663.

DIOLCH - NIA CLWYD

===================================================================================

NEWYDDION: Medi 2003

Dim ond gair o ddiolch i chi gyd am eich gwaith caled cyn ac yn ystod Eisteddfod Maldwyn eleni a hefyd am y blodau hyfryd.

Ymarfer yn ail ddechrau ar nos Sul 7ed o Fedi, 2003 am 8:00 o'r gloch YN BRYDLON! Edrych ymlaen at eich gweld i gyd.

Cofiwch am y digwyddiadau a'r cyngherddau (rhestr ar y We) a hefyd CINIO DOLIG ar y 12ed o Ragfyr, 2003.

NI FYDD YMARFER AR NOS SUL 21ain O FEDI - Cyngerdd Gwyl Llandeilo.

=================================================================================

NEWYDDION: 9/4/04

Dim byd mawr i ddweud ar hyn o bryd. Cofiwch bod ymarfer:

Nos Sul, 13eg o Ebrill am 8:00pm (nos Sul yma)

DOES DIM ymarfer nos Sul, 20ed o Ebrill - sef nos Sul y Pasg.

Mae ymarfer ar nos Sul, 27ain o Ebrill am 8:00pm

Diolch.

=========================================================

NEWYDDION: 2/4/03

Yma o dro i dro fe fydd gwybodaeth berthnasol i'r aelodau yn ymddangos.

Cofiwch: Ymarfer nos Sul yma am 8:00pm!

 

 

 
Bois y Castell 2003 | Aelodau yn unig
cyswllt@boisycastell.org
Diweddarwyd: 13/12/04