Baner Cymru

Bois y Castell

Logo Bois y Castell
hafan
cyswllt
perfformiadau
cwrdd â'r côr
dolenni
cefndir
 
geiriau ein caneuon

CYNNWYS.
Cliciwch ar deitl y gân er mwyn
mynd yn syth at eiriau’r gân honno.

CÂN DAI’R CANTWR

GWN DAFYDD IFAN.

Y CWM.

O NEFOL ADDFWYN OEN.

GWIN BEAUJOLAIS.

Y GÂN OLA’

MAE’R DDAEAR YN GLASU.

DIM OND MEIRCH Y MÔR.

CYMRU.

CATRINA.

LLONGAU CAERNARFON.

LLOER DIRION LLIW’R DYDD.

Cân y gystadleuaeth Côr Gwerin yn Eisteddfod
Meifod.

Y GOBAITH YN Y TIR.

RWY’N COFIO PRYD.

FFARWEL I DDOCIAU LERPWL

MAENT YN DWEDYD.

CAN SBAENEG.

Y FERCH O’R SCER

DACW ‘NGHARIAD

CEFNDIR CAN O DRISTWCH

STESION STRATA.

BOIS Y CESTYLL

Y DERYN PUR

TRA BO DAU

DWYFOL UN

HAFAN GOBAITH

CÂN YR HEN WYDDELES

Y GLOMEN

TRÊN YR EFENGYL

GWYNT YR HWYR

Y SAITH RHYFEDDOD

SUO GAN

A GWNAETH Y SÊR


CAROLAU.

CAROL Y BLWCH

AR FORE DYDD NADOLIG.

CLYWCH, CLYWCH.

GANWYD IESU

AR NOSON DY ENI DI

AR NOSON FEL HENO

CLYCHAU BETHLE’M

GWYL Y BABAN

SEREN BETHLE’M

UN SEREN WEN

NADOLIG

CERDDAF Y STRYDOEDD TYWYLL

RHYFEDDOD AR FOREUDDYDD

FFARWEL NED PUW



CÂN DAI’R CANTWR.

Drych i fyd wyf i fod,
Collais glod allaswn gael,
Tost yw’r nod, dyrnod wael,
I’w gafael ddaeth â mi.
Yn fy i’enctid drygfyd ddaeth,
Yn lle rhyddid caethfyd maith,
Chwanegwyd at fy ngofid;
Alltud wyf ar ddechrau ‘nhaith.

Can ffarwel i fy ngwlad
Annwyl fad, fu wrth fy modd.
Amal les ges ar goedd
Rhwng dy wych aberoedd di.
O ffarwel i Walia gron,
Ei dolydd glwys a’i llwyni llon,
Heb bryder gwn mai Prydain
Yw gardd y byd i gyd o’r bron.

Plas Tre-gof angof fydd,
Cystudd prudd i Ddafydd ddaeth,
Calon lwys droir yn llaith,
Wrth weld y fordaith bell.
Plwyf San Tathan, brasfan bro,
A Thregatwg, treuliais dro,
A Phen-y-bont ar Ogwr,
Ffafwr Duw fo y^nt yn do.

Dichon bydd rhai o’u bodd
Yn gofyn pwy yw y bardd,
Gwn nad oes dyn a wardd
Un a dardd o’m hannwyl dir.
O wlad Forgan wiwlan daeth
Yr impyn llon sy’n awr yn llaith
Yng ngharchar Sir Gaerfyrddin
Cur I’m cof, rwy’n eithaf caeth

GWN DAFYDD IFAN.

Os ydach chi’n dewis cael clywed y gwir,
Mi draethaf yr hanes o hyn cyn bo hir;
A chofiwch chi’r stori tra byddwch chi byw,
Fod gwn Dafydd Ifan heb ‘run hoel scriw.

Fe gollodd yr hoelion o’r clo, medda nhw,
Wrth ymladd tri diwrnod ym mat Waterlw,
A’i stoc o’n odidog o bren mawnog mawr,
A’i liw o’n loyw-ddu yn gweddu hen gawr.

Pan wela fo sgwarnog ne lwynog ar lawr,
Bydd Dafydd fan honno a’i fwriad yn fawr,
Fe’u seithith nhw’n gelen yn gywrain â’i wn,
Yn gwn ac yn gathod, un hynod yw hwn.

Os daw yr hen Ffrancod fel buont o’r blaen,
I ymladd â Lloeger, na feindiwch chi ddraen;
Ni ddaw dim niwed i ni, neno’r Tad,
Tra bo Dafydd Ifan â’i wn yn y wlad.


Y CWM.

Wel, shw mae’r hen ffrind,
Mae’n dda cael dy weld ti gartre fel hyn.
‘Dan ni ddim wedi cwrdd
Ers i ti hel dy bac a rhedeg i ffwrdd.
Ond rwy’n cofio nawr
Ni’n meddwl bo ni’n fechgyn mawr,
Cerdded gyda’n tadau y llwybr hir i’r pyllau,
O la la la la.
Sneb yn sicr o’r gwir,
Paham i ti fynd a thorri mor glir.
O mae rhai wedi sôn
Fod y cwm yn rhy gul i fachgen fel Siôn.
Wyt ti’n cofio’r tro ar lethrau’r fro
Sgathru ar ein gliniau wrth ddringo am y gore,
O la la la la.

Cytgan:

Craig yn sownd o dan ein traed,
A chariad at y cwm yn berwi yn ein gwaed.

O fe fu newid mawr
Ers iddyn nhw gau’r holl byllau i lawr
Ac fel y gweli dy hun
Does dim nawr i ddal y bois rhag y ffin.
A thithe wedi magu blas
Am ragor o awyr las,
Ond rwy’n credu mai ti oedd y cyntaf i weld
Y tywydd ar y gorwel
O la la la la

O NEFOL ADDFWYN OEN.

O nefol addfwyn Oen
Sy’n llawer gwell na’r byd
A lluoedd maith y nef
Yn rhedeg arno’u bryd.
Dy ddawn a’th ras a’th gariad drud
Sy’n llanw’r nef, yn llanw’r byd.

Noddfa pechadur trist
Dan bob drylliedig friw.
A phwys euogrwydd llym
Yn unig yw fy Nuw.
Does enw i’w gael o dan y nef
Yn unig ond ei enw ef.

Ymgrymed pawb i lawr
I enw’r addfwyn Oen.
Yr enw mwyaf mawr
Erioed a glywyd sôn.
Y clod, y mawl, y parch a’r bri
Fo byth i enw’n Harglwydd ni.


GWIN BEAUJOLAIS.

Weithiau yn flin ac yn ffôl,
‘Rwyt weithiau yn glown mewn dawns roc a rôl.
‘Rwyt ti weithiau yn, weithiau yn adlais o bell,
‘Rwyt weithiau yn gân na chanwyd ei gwell,
Dro arall yn Hydref o sych,
Ond weithiau yn Wanwyn o wych.

Wastad yn win Beaujolais,
‘Rwyt ti’n harddach bob dydd,
‘Rwyt ti’n win Beaujolais,
Mae dy gwpan di’n llawn
Ac fe yfwn pe cawn,
Mi yfwn bob deigryn o’th win Beaujolais.

Weithiau cwpanau yn cwrdd,
Dro arall milltiroedd, canrifoedd i ffwrdd.
Ambell waith ti yw’r heulwen ar wefus y traeth,
Dro arall y gell a’m ceidw yn gaeth,
Weithiau y seidr Bwshe,
Ond ‘rwyt wastad i mi yn win Beaujolais.

Wastad yn win Beaujolais,
‘Rwyt ti’n harddach bob dydd,
‘Rwyt ti’n win Beaujolais,
Mae dy gwpan di’n llawn
Ac fe yfwn pe cawn,
Mi yfwn bob deigryn o’th win Beaujolais.

Wastad yn win Beaujolais,
‘Rwyt ti’n harddach bob dydd,
‘Rwyt ti’n win Beaujolais,
Mae dy gwpan di’n llawn
Ac fe yfwn pe cawn,
Mi yfwn bob deigryn o’th win Beaujolais.
Cusanwn bob deigryn o’th win Beaujolais.


Y GÂN OLA’

Hen ffrindiau ac atgofion am beth fu,
A thithau’n galw heibio atom ni,
Y nefoedd sydd yn agor
Gyda’r nodau syml pêr,
A ninnau yn mwynhau’r alawon cu.

Yn grug o fewn ein cofion llawenhawn,
Dim sôn am boenau’r byd na diffyg dawn.
Ac yn yr oriau mân
Pan ddaw cysgodion hir a chodi llaw,
Cân ola sydd yn torri calon lawn.

Mor fyr oedd yr amser galwaist heibio,
Fel aur o eiliad lon mewn blwyddyn hir.
Ac er ond cofion sydd am ddyddiau hapus,
Mae gwên yn dod i leddfu poen y cur.

Mi alwaist heibio droeon ers y dydd
Pan rhaid oedd dweud ffarwel a mynd yn rhydd,
Ond dyma’r gân a ganwn
Er mwyn diolch it’ am alw mewn,
Y gân a’r wên, dim diwedd iddynt sydd.


MAE’R DDAEAR YN GLASU.

Mae’r ddaear yn glasu,
A’r coed sydd yn tyfu,
A gwyrddion yw’r gerddi,
Mae’r llwyni mor llon.
A heirdd yw ein eginiau,
A’r dail ar y dolau,
A blodau’r perllannau
Pur llawnion.

Os bu yn ddiweddar
Wedd ddu ar y ddaear,
Cydganodd yr adar
Yn gerddgar i gyd;
Gweld coedydd yn deilio
A wnâi iddynt byncio,
Cydseinio drwy’n hoywfro
Draw’n hyfryd.

Mae’r ddaear fawr ffrwythlon
A’i thrysor, yn ddigon
I borthi’r trigolion
Yn dirion bob dydd;
Pe byddem ni ddynion
Mewn cyflwr heddychlon
Yn caru’r un galon
Ein gilydd.


DIM OND MEIRCH Y MÔR.

Heno ar goll heb unlle i droi,
Ond heno’n gytûn, yn hollol gytûn,
Mai rhaid oedd i ninnau ffoi.

Cytgan:

Dim ond meirch y môr
Sy’n carlamu ar ryw gryman o draeth.
Dim ond meirch y môr
Sydd yn dystion fod dwy galon yn gaeth.
Dim ond meirch y môr
Sy’n mentro ar hyd y llwybr aur
A chludo dau o’r byd
Ar daith i ynys hyd yr haul

W W W W W
Ond gwelais nad oedd yr ynys hon
yn ddim, yn ddim i ti.

CYMRU.

Mae gen i freuddwyd ers amser
Lle gwelaf Gymru’n rhydd,
Ac iaith ein plant fydd iaith ein heneidie,
A phob aelwyd yn cynhesu wrth fflam
Heniaith treftadaeth dragwyddol fydd.
Gobaith, ffydd a chariad
Sydd angen arnom ni,
Gobaith i’r dyfodol,
Ffydd y bobl,
A chariad y canrifoedd i adfer
Gogoniant ein hetifeddiaeth ni.

Cytgan:
Ond, cyn hynny mae angen gwir ymdrechu,
Cyn hynny rhaid i’n drechu
Yr hyn sydd yn ein dal yn gaeth,
A chyn hynny, mae angen sylweddoli
Mai ni sydd yn rheoli tynged gwlad ac iaith.
Ai Cymry gwir wladgarol
Neu Gymry diwrnod ydym ni.

Mae gen i ffydd y gwelaf Gymru
Yn codi’i phen i’r haul
A throi cysgodion ein gorffennol
‘Nol at wawd y machlud,
Gan foddi gwlad ein tadau
Gyda llif oleuni gwawrddydd disglair
Fydd yn deffro’r Gymru rydd

Cytgan:

CATRINA.

O! Iesu da fu’n cilio gynt i’r mynydd,
A phlygu’n dawel yno yn y gwlith;
O! cofia am ein gwendid a’n gofidiau,
A disgyn yma yn dy ras i’n plith.

Cytgan:
O! rhoddwn fawl i’r Iesu mawr,
O! Rhoddwn fawl a chân i’r Iesu mawr.

Fe welaist groes yn sefyll ar y gorwel,
A thithau’n cael dy hoelio arni hi;
Ac yn yr ardd gweddiaist rhwng y blodau,
“O! Dduw, fy Nhad, fe wnaf d’ewyllys Di.”

Cytgan:

O! dyro nerth i ninnau blant y ddaear
I gario’r groes heb ofni’r gwawd a’r brad,
A dysg i ninnau yn ein gorthrymderau
I bwyso ar drugaredd Duw ein Tad.

Cytgan:

Pan ddaw y nos a ninnau yn ein hofnau,
O! cadw ni, Waredwr yn dy law;
Boed ar ein henaid lewyrch gwedd dy wyneb,
A dwg ni’n ddiogel i’r baradwys draw

Cytgan:

LLONGAU CAERNARFON.

Mae’r holl longau wrth y Cei yn llwytho;
Pam na cha i fynd fel pawb i forio?
Dacw dair yn dechrau warpio
Ac am hwylio heno;
Byrcined, Bordo a Wiclo.
Toc daw stemar bach i’w touo:
Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio.

Pedair llong wrth angor yn yr afon;
Aros teid i fynd tan Gastell C’narfon,
Dacw bedwar golau melyn
A rhyw gwch yn cychwyn;
Clywed sw^n y rhwyfau wedyn.
Toc daw’r stemar bach i douo.
Golau coch ar waliau wrth fynd heibio.

Llongau’n hwylio draw a llongau’n canlyn,
Heddiw, fory ac yfory wedyn.
Mynd â’u llwyth o lechi gleision
Dan eu hwyliau gwynion
Rhai i Ffrainc a rhai i Werddon.
O, na chawn i fynd ar f’union
Dros y môr a hwylio’n ôl i G’narfon.

Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr,
Oes ‘na le i hogyn fynd yn llongwr,
A chael spleinsio rhaff a rhiffio
A chael dysgu llywio
A chael mynd mewn cwch i sgwlio.
O na chawn i fynd yn llongwr,
A’r holl longau’n llwytho yn yr harbwr.

LLOER DIRION LLIW’R DYDD.

Lloer dirion, lliw’r dydd,
Mewn poen ac mewn penyd,
Mewn breuddwyd rwy’n brudd;
Trwy syndod rhyw syw
Mae’r galon mor gwla
Ni fydda’i fawr fyw;
Pan welais dy wedd,
Ti a’m clwyfaist fel cledd,
Ces ddolur heb wybod,
Rwyf heno’n un hynod
Yn barod i’m bedd:
O dduwies fwyn dda,
Clyw glwyfus ddyn cla’,
O safia fy mywyd
Loer hyfryd liw’r ha’;
Mae rhai â’u bryd ar bethau y byd,
Ond ar lendid lloer wiwlan
Rhoes i fy holl amcan
Yn gyfan i gyd:
Pe cawn ond tydi,
Mi ddwedwn yn hy’
Fod digon o gyweth
Wen eneth gen i.

Y GOBAITH YN Y TIR.

Pan fo erwau bore oes
Yn anial ac yn faith.
Chwilio’n ofer am fan gwyn
A hiraethu am ben y daith.
(T1 - Wwww)
T2 - Yma’n ein cwmni, yma’n ein plith,
Fe gei di brofi gwen y gwlith.
Ar dy wefus melys fydd,
Fe gei yma flas y pridd.

Cytgan:
Ni yw’r Gwanwyn yn y tir,
Ni yw’r grawn a dyf yn îr.
Ac er bob rhyw awel groes
Fe dyfwn ni o oes i oes.
Ni yw’r gobaith yn y tir.

Ysu wyt am weld rhyw ddydd
Daear las o dan dy draed.
Ar ôl gweithio, brwydro’n hir,
Siom a dicter sy’n dy waed.
(T1 - Wwww)
T2 - Yma cei feithrin gwreiddiau cry
Egino fydd d’obeithion di,
Yna gweli olau dydd
Wrth gael yma flas y pridd.

Cytgan:

Mae ‘na fory newydd
Yn dy aros di,
Llwybr dy freuddwydion,
Tyrd, dilyna hi, dilyna hi.

Cytgan a diweddglo:

RWY’N COFIO PRYD.
Rwy’n cofio pryd y teimlais wres dy lygaid,
Rwy’n cofio pryd yr aeth y byd ar dân.
Rwy’n cofio pryd y gwelais di’r tro cynta’
Rwy’n cofio’r eiliad, rwy’n cofio pryd.

W w w w w w w w w w w w
Rwy’n cofio pryd.
(Cenir yr uchod dair gwaith)

FFARWEL I DDOCIAU LERPWL
O dewch Mari i forio ar y llyn,
Mae’r awel wedi codi i lanw’r lliain gwyn;
I lanw’r lliain gwyn , i lanw’r lliain gwyn,
Mae’r awel wedi codi i lanw’r lliain gwyn.


MAENT YN DWEDYD.

Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Maent yn dwedyd y ffordd yma
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Nad wy’n symud o’r tafarna;
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Cawn i gwlwm ar fy lodes
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
‘Dawn i’r dafarn ond ar neges,
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.

Maent yn dwedyd
Maent yn dwedyd
Maent yn dwedyd

Maent yn dwedyd am yr adar
Ro-ri-ri-ro.
Nad oes un o’r rhain heb gymar,
Ro-ri-ri-ri-ro.
(T1 - A)
Gwelais dderyn Brith y Fuches
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Heb un cymar na chymhares
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.

Maent yn dweud fy mod yn caru,
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Lle nad wyf, mi allaf dyngu;
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Yn lle’r wyf yn caru mwyaf,
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Y mae lleiaf sôn amdanaf,
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.
Ro-ri-di-ri-ri-di-ri-di-ri-ro.


CAN SBAENEG.

Mi abwelo tenia wn werto,
Mi abwelo tenia wn werto,
Que criaba mwchos nabos tralalalala,
Que criaba mwchos nabos tralalalala,
Que criaba mwchos nabos.

Siempre canta el coro en Gales,
No en Catalan ni aun en Espanol,
Pero esperamos que os gwste tralalalala,
Esperamos que os gwste tralalalala,
Esperamos que os gwste.

Liegamos al fin del concierto,
Su compania nos ha gustado,
Grathias por su bienvenida tralalalala,
Grathias por su bienvenida tralalalala,
Grathias por su bienvenida.

Cuando regresemos otra veth,
Sereis vosotros que nos cantareis,
Sera algo en Gales claro que siiiiiiiii,
Sera algo en Gales claro que siiiiiiiii,
En Gales claro que si.

Y FERCH O’R SCER

Mab wyf fi sy’n byw dan benyd
Am f’anwylyd fawr ei bri,
Gwaith ei charu fwy na digon
Curio wnaeth fy nghalon i;
Gwell yw dangos beth yw’r achos,
Nag ymaros dan fy nghur,
Dere’r seren atta i’n llawen,
Ti gai barch a chariad pur.


Pwylla’r bachgen gwyllt ei anian,
Rwyf dan ofnau rhwymo’m llaw;
Gwaith cael digon o rybuddion
Wrth gariadon ymma a thraw,
Rwy’n rhy ifanc eto i ddianc,
Cym’rai bwyll cyn myn’d rhy bell;
Pan bwy,n barod ryw ddiwarnod,
Ti gai glyw, os byddi gwell.
Pan bwy,n barod ryw ddiwarnod,
Ti gai glyw, os byddi gwell.


DACW ‘NGHARIAD

Dacw ‘nghariad I lawr yn y berllan,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
O na bawn i yno fy hunan,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
Dacw’r ty a dacw’r sgubor,
Dacw ddrws y beudy’n agor.
Ffal-di-radl-i-dl-al, ffal-di-radl-i-dl-al,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.


Dacw’r dderwen wych ganghennog,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
Golwg arni sydd dra serchog,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
Mi arhosaf dan ei chysgod
Nes daw ‘nghariad i ‘nghyfarfod.
Ffal-di-radl-i-dl-al, ffal-di-radl-i-dl-al,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.


Dacw’r delyn, dacw’r tannau,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
Beth wyf well heb neb i chwarae,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.
Dacw’r feinwen hoenus fanwl,
Beth wyf nes heb gael ei meddwl?
Ffal-di-radl-i-dl-al, ffal-di-radl-i-dl-al,
Tw-rym-di-ro, rym-di-radl-i-dl-al.

CEFNDIR CAN O DRISTWCH


W-w-w-w.
Ond nawr mi wn, does dim ar ôl,
Ni ddaw fy nghariad byth yn ôl,
Rwy’n cofio nawr atgofion ffôl,
Mor unig wyf yn canu cân o dristwch.

( 10 bar offerynnol)

W-w-w-w.
Ond nawr mi wn, does dim ar ôl,
Ni ddaw fy nghariad byth yn ôl,
Rwy’n cofio nawr atgofion ffôl,
Mor unig wyf yn canu cân o dristwch.

(2 far unawd)

Ac hebot ti ni fedraf fyw,
Mor unig wyf yn canu cân o dristwch.

STESION STRATA.

Ffarwel i stesion Strata, ffarwel i Ystrad Fflur,
Ffarwel i lynnoedd Teifi a’u dyfroedd pur,
Ffarwel i’r grug a’r fawnog ar lethrau moel Ffair Rhos,
Ffarwel i ferch y bryniau cyn daw’r nos.

Mae Hiraeth am y dyfroedd ym mref yr hudd,
Mae Hiraeth yn y nos am weled toriad dydd,
Mae Hiraeth ar hen aelwyd am gael ail gynnau’r tân,
Mwy hiraeth sy’n fy mron am gariad geneth lân.

Rhudd yw ei gruddiau, rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith,
Rhudd yw ei gruddiau, rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Er gweled ar fy nheithiau ryfeddodau’r byd,
Ac er i diroedd pell, dros ennyd ddwyn fy myd,
Gwn mwy ni fyddaf fodlon nes profi eto’r swyn
Yng nghwmni merch y bryniau a’i charu’n fwyn.

Rhudd yw ei gruddiau, rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.
Rhudd yw ei gruddiau, rhosyn mewn rhith,
Dwy lygad emrallt yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.

Yn gloywi fel gwlith ar y gwawn.


BOIS Y CESTYLL

Yn Ninefwr hynafol yr Arglwydd Rhys,
Erys ôl cannoedd o frwydrau cynnar
Yn gaerau gynt ar graig wâr,
Yn gaerau heirdd lle bu gwres,
A meini lle bu mynwes.

Hon yw Cân Carreg Cennen,
A mawrhad y muriau hen;
On d mwy na dim ond meini
I ninnau dy waliau di,
Mwy na cherrig unigol
Yw’r rhai sydd eto ar ôl.

Dryslwyn yr hen gymwynas
Sy’n fwy na’r Dryslwyn,
Mae’n dras, mae’n arf rydd,
Mae’n w]r ar fryn,
A ni’n dal yn ei dilyn,
Fesul cam eto’n tramwy
I godi arf gyda hwy.

Ar y maes i drwsio’r mur
Mae, eilwaith angen milwyr;
Mae angen mwy eleni
I roi’n ôl ein tir i ni,
Y gw]r dan ddraig a erys
Heddiw’n rhan o fyddin Rhys.


Y DERYN PUR

Y deryn pur ar adain las,
Bydd i mi’n was di-bryder,
O! brysur brysia at y ferch,
Lle rhoes i’m serch yn gynnar.
Dos di ati dywad wrthi,
Mod i’n wylo’r dwr yn heli,
Mod i’n irad am ei gweled,
Ac o’i chariad yn ffaelua cherddad,
O! Duw faddeuo’r hardd ei llun,
Am boeni dyn mor galad!

Pan o’wn yn hoenus iawn fy hwyl,
Ddiwarnod gwyl yn gwylio,
Canfyddwn fenyw lana ‘rioed,
Ar ysgawn droed yn rhodio.
Pan ei gwelais syth mi sefais,
Yn fy nghalon mi feddyliais,
Wele ddynes lana’r deyrnas,
A’i gwên yn harddu’r holl o’i chwmpas;
Ni fyn’swn gredu un dyn byw,
Nad oedd yn rhyw angyles!


TRA BO DAU

Tra bo dau, w-a, tra bo dau, w-a,
Tra bo dau w-a, w-a-w, Tra bo dau.

Mae’r hon a gar fy nghalon i,
Ymhell oddi yma’n byw,
A hiraeth am ei gweled hi,
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
Glendid nid yw yn parhau;
Ond cariad pur sydd fel y dur,
Yn para tra bo dau.

O’r dewis hardd ddewisais i,
Oedd dewis lodes lân,
A chyn budd ‘difar gennyf fi
O rhewi waniff y tân.

Cyfoeth nid yw ond oferedd,
Glendid nid yw yn parhau;
Ond cariad pur sydd fel y dur,
Yn para tra bo dau.

Tra bo dau w-a,
Tra bo dau w-a,
Tra bo dau w-a w-a-w,
Tra bo dau, Tra bo dau w-a-w.

DWYFOL UN.

Gwn mai Dwyfol Un fu’n plannu’r blodau gwyllt
Ymhob rhyw ardd,
Gwn yn awr am obaith yn y dywyll nos
Caf olau gwan.
Gwn am bob rhyw un bu’n mynnu crwydro’n ffôl,
Bod yno un i’w dwyn yn ôl,
Yma’i hun, Dwyfol Un.

Gwn er waetha’r storm na fethodd gweddi daer
A chyrraedd nef;
A bod yno Un ar bob rhyw ddyrys awr
A glyw fy llef.
Gwn pan glywaf gyntaf gri’r un bach di-nam
A gweled gwên ar wyneb mam
Y diolchaf am y Dwyfol un.

Gwn er gwaetha’r storm na fethodd gweddi daer
A chyrraedd nef,
A bod yno un ar bob rhyw ddyrys daith
A glyw fy llef,
Gwn pan glywaf gyntaf gri’r un bach di-nam
A gweled gwên ar wyneb mam
Y diolchaf am y Dwyfol un.

Gwn pan glywaf gyntaf gri’r un bach di-nam
A gweled gwên ar wyneb mam
Y diolchaf am y Dwyfol un.


HAFAN GOBAITH.

Pan fyddo’r ystorom
Yn bygwth gwae uwch dy ben,
A therfysg diwedd dydd
Sydd yn rhwygo erwau’r nen,
Pan fyddo’r cysgodion
Yn taenu ias dros y tir,
Mantell ofnau’r nos
Sydd yn gaddug blin o gur.

Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i’th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.

Pan fyddo dy lwybr
Mor faith a thithau’n llesgau
A chopa’r bryn ymhell,
Gorwel nad yw’n agosáu.
Pan fyddo dy ysbryd
Ar fin diffygio’n llwyr,
A baich unigedd byd
Sydd yn drech ym min yr hwyr.

Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i’th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.

I’r sawl sy’n myned drwy ei ddôr,
Cynhaliaeth gref a ddaw.
Ffydd, gobaith a chariad Iôr
Yw’r heulwen wedi’r glaw.

Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i’th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.

Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i’th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.
Yn hafan gobaith hyd y wawr

CÂN YR HEN WYDDELES.

Pan oeddwn i gynt yn fachgen,
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Heb feddwl mawr nag amgen,
Ar ferched glân mi roes fy mryd
I hala’r byd yn llawen.
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Bwmba, Bwmba bei-bo
Ar ferched glân mi roes fy mryd
I hala’r byd yn llawen.

O’r diwedd mi briodes,
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Â’r lana’ ferch a weles.
Fe fuasai’n well i mi fel ‘rwy’n byw
Briodi â rhyw wyddeles.
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Bwmba, Bwmba bei-bo,
Fe fuasai’n well i mi fel ‘rwy’n byw
Briodi â rhyw wyddeles.

Ni fedra’i wau na gwnïo
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Na golchi’n lân na smwddio,
Ni roddai glwtyn ar fy mritsh
Fe haeddai’r witsh ei chicio.
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Bwmba, Bwmba bei-bo
Ni roddai glwtyn ar fy mritsh
Fe haeddai’r witsh ei chicio.

O’r diwedd fe ddaeth angau,
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Ymaflodd yn ei sodlau,
A dyna sut aeth y witsh o’r byd,
A dyna’i gyd oedd eisiau.
Bwmba, Bwmba, Bwmba didl-dei,
Bwmba, Bwmba bei-bo,
A dyna sut aeth y witsh o’r byd,
A dyna’i gyd oedd eisiau.


Y GLOMEN.

Fel ‘roeddwn i ryw fore hawddgar,
Yng nghwr y coed ac wrth fy mhlesar;
Ac uwch fy mhen mi glywn ryw glomen
Yn cwyno’n glaf, “Ow beth a wnaf
Am f’annwyl gymar”.

A nesu wnes yn nes i wrando
Beth oedd y gangen ferch yn gwyno,
A nesu wnes a gofyn iddi,
“ Y lana’ o liw, a’r fwyna’n fyw,
Beth yw dy g’ledi?”.

Y glomen fwyn, O paid a chwyno,
Fe gyfyd haul ar fronydd eto;
A phan y dêl daw’r coed i ddeilio:
Ti gofi’n dda pan ddelo’r ha’
Dae’r gweilch i rodio.

Yng nghwr y coed mi glywn y glomen
Yn cwyno’n glaf am ei hannwyl gymar,
Ac am ei gwddf’roedd aur yn glychau,
Lle bu’n faith, do lawer gwaith,
Fy nwy fraich innau.

TRÊN YR EFENGYL.

Ewch i’r trên…….
Mae lle i lawer mwy.

Dod mae trên yr Efengyl,
Bydd yma cyn bo hir,
Mi glywaf ei holwynion
Yn rhowlio drwy y tir.

Cytgan
Ewch i’r trên blantos bychan,
Ewch i’r trên blantos bychan,
Ewch i’r trên blantos bychan,
Mae lle i lawer mwy.

Fe’i clywaf yn dynesu,
Mae’n brysio ar ei hynt,
Rôl gollwng brêc a chodi stêm
Mae’n rhuthro fel y gwynt.

Cytgan

Mae pris y daith yng nghyrraedd pawb,
Y tlawd a’r cefnog rai,
Nid oes ail ddosbarth ar y trên,
Run pris, dim mwy na llai.

Cytgan (ddwywaith)
Ww, ww.

GWYNT YR HWYR.

Ti yw’r lleuad ar y gorwel
Uwch y nos o awr i awr,
Ti sy’n lliwio’r ffordd i’r camau
Ar fy llwybyr tua’r wawr.
Ond daeth gwynt yr hwyr i’m llethu
Wrth i lwybrau’r nos ddiflannu
Gan fod un cwmwl rhyngom ni.

Ti yw’r fflam sy’n llosgi’n isel
Ym mhelydrau’r oriau mân,
Gan fod calon imi’n gannwyll,
Gan fod golau imi’n gân.
Ond hen wynt yr hwyr gusanodd
Ruddiau’r fflam, ac yna’i ddiffodd
Gan adael oerni rhyngom ni.

Ti sy’n gwasgar y goleuni
Nes troi’n llaith holl iaith y lli,
Ti sy’n torri’n ddarnau arian
Draw ar draeth fy hiraeth i,
Wrth i wynt yr hwyr yn dawel
Adael lleuad ar y gorwel
Uwch llanw’r don i’n huno ni.

Y SAITH RHYFEDDOD.

A mi a glywais fod y ceiliog
Ar y graig yn hela sgwarnog,
Ac yn dala un bob diwrnod;
Dyna un o’r saith rhyfeddod.

A mi a glywais fod y frân
Ar y môr yn chwalu gwlân,
Ac yn chwalu cnu mewn diwrnod;
Dyna ddau o’r saith rhyfeddod.

A mi a glywais fod y mochyn
Ar y môr yn canu’r delyn,
Ac yn clymu’r tant â’i dafod;
Dyna dri o’r saith rhyfeddod.

A mi a glywais fod pysgodyn
Yn y llwyn mewn twmpath eithin,
Ac yno’n byw ers dau ddiwrnod;
Dyna bedwar o’r saith rhyfeddod.

A mi a glywais fod yr eidion
Ar y môr yn nithio rhynion,
Ac yn berwi’r uwd yn barod;
Dyna bump o’r saith rhyfeddod.



CAROLAU.

CAROL Y BLWCH

Gwrandawed pob enaid ar gennad o’r llys
A ddaeth o Gaersalem i Fethlem ar frys,
Pob organ mewn cywair, pob telyn mewn hwyl,
A myrdd o angylion yn cadw dydd gwyl.

Arweinwyd rhyw seren uwch Bethlem a’i phyrth
I ddangos i’r doethion arwyddion o wyrth;
O Gabriel, O Gabriel, rhaid dangos y tlws,
O dos â’r bugeiliaid i ymyl y drws.

Rho gân i’r cantorion, a chana dy hun:
Gogoniant i’r nefoedd, tangnefedd i ddyn:
Caed prif nod y nefoedd, Duw diddig, Duw da,
Rhodd Flwch Aur Nadolig yn glennig i gla’.

Blwch lanwodd gostrelau Manasse a Saul,
Blwch llawn o rinweddau i ninnau sy’n ôl;
Er cymaint a lifa i ddynion o’i ddawn,
Fel hyn y cyhoeddir: “Mae’r Blwch hwn yn llawn”.


AR FORE DYDD NADOLIG.

Ar fore Dydd Nadolig
Esgorodd y Forwynig
Ar Geidwad bendigedig,
Ym Methlem dref y ganwyd Ef,
Y rhoes ei lef, drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.

Dros euog ddyn fe’i lladdwyd,
Ac mewn bedd gwag fe’i dodwyd
Ar ol y gair “Gorffenwyd”.
Ond daeth yn rhydd y trydydd dydd
O’r beddrod prudd, drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.

O rasol Fair forwynig,
Mam Ceidwad bendigedig
Yr Iesu dyrchafedig.
Ger gorsedd nef eiriola’n gref,
Achwyd dy lef drosom ni.
O Geidwad aned,
Fe wawriodd arnom ddydd.
Fe wawriodd arnom ddydd.


CLYWCH, CLYWCH.


Clywch, clywch, newyddion borau
Ddaeth o’r nef, ddaeth o’r nef,
Mab uchel o’r cadachau
Ddaeth o’r nef;
Bydd lawen iawn Ferch Seion,
Yn fore wisg dy goron,
Dy Frenin doeth o galon
Ddaeth o’r nef, ddaeth o’r nef,
Pardynwr meibion dynion
Ddaeth o’r nef,


I lawr tywynnodd golau,
Dyma’r dydd, dyma’r dydd,
Ar fro a chysgod angau,
Dyma’r dydd;
Y Gair oedd o’r dechreuad,
Diddechrau, diddiweddiad,
Ef ydyw’r atgyfodiad,
Dyma’r dydd, dyma’r dydd,
Daeth inni’n gadarn Geidwad,
Dyma’r dydd.

Mae sain yr utgorn arian,
Awn ymlaen, awn ymlaen,
Yn uchel alw i’r winllan,
Awn ymlaen;
Mae gwledd gan Frenin Seion,
A’i fwrdd yn llawn danteithion
O basgedigion breision,
Awn ymlaen, awn ymlaen,
A gwin i’r trwm eu calon,
Awn ymlaen.

GANWYD IESU

Unawd:
Côr: Ww, Ww, Ww, Ww.

Cytgan:

Rhown ein moliant uwch ei breseb
Mae’r gogoniant ar ei wyneb
Wyneb Iesu, Wyneb Iesu Brenin Nef.

Pennill y Côr:

Dwed angylion gyda dynion
Ef yw’r trysor mwya’i fri,
A thra rhodiom lwybrau daear
Iesu Grist fo’n Brenin ni.


AR NOSON DY ENI DI.

SÐn atsain y gwynt ar y bryniau
Ar noson dy eni Di
Yn fiwsig i gôr y cymylau,
Cyhoedda dy eni Di.

Cytgan:

Ar noson dy eni Di, fy ffrind,
Ar noson dy eni Di,
Mae synau’r nos yn seinio’u cân
Ar noson dy eni Di.

SÐn brefiad cysurus dan gesail
Ar noson dy eni Di,
Yn anrheg gan llencyn o fugail,
Cyhoedda dy eni Di.

Cytgan:

SÐn crensian camelod ar eira
Ar noson dy eni Di,
Wrth gario gwþr doeth a’u trysorfa
Cyhoedda dy eni Di.

Cytgan:

SÐn siffrwd y gwair yn y preseb
Ar noson dy eni Di,
Gan freichiau’n cofleidio anwyldeb
Cyhoedda dy eni Di.

Cytgan:


AR NOSON FEL HENO.

Ar noson fel heno
Yng ngwlad Iwdea gynt,
A’r sêr yn llond yr awyr
A’r faeaf yn y gwynt,
Fe aned yno i’r Forwyn Fair,
Ei baban bach ar wely gwair.

Ar noson fel heno
A’r dref yn cysgu’n drwm,
Fe ddaeth bugeiliaid ofnus
At ddôr y llety llwm,
Ac oddi yno’n syllu’n daer
Ar wyneb annwyl baban Mair.

Ar noson fel heno
Dros erwau’r tywod poeth,
O’r dwyrain pell i Fethlem
Fe ddaeth tri brenin doeth
I blygu’n wylaidd yn y gwair,
I roddi mawl i faban Mair.

Ar noson fel heno
Cawn ninnau gofio ‘nghyd
Am eni yn Iwdea,
Waredwr mwyn y byd.
A chanwn gân i faban Mair
A aned gynt ar wely gwair.

CLYCHAU BETHLE’M.

Unawdydd:
Clywch glychau Bethle’m yn atsain drwy’r nos,
A baban mewn preseb dan seren dlos.
Clychau’r Nadolig sy’n seinio drwy’r byd
I ddatgan dyfodiad ein Ceidwad drud.

Pawb: Cytgan (Pennill 1 a 2)
Clywch, Clywch, Clywch, Clywch,
(Unawdydd: Fe aned yr Iesu ym Methle’m dref
(Côr: A…, A…., A…., A…..
Clywch, Clywch, Clywch, Clywch,
Llawenydd sy’n llenwi’r holl ddaear a’r Nef.

Côr:
Bugail a brenin yn awr yn gytûn
Yn dod i addoli Iachawdwr dyn.
Crist ddaeth o’r Nef i gyhoeddi y gwir
Ac uno’r cenhedloedd mewn cariad pur.

Cytgan: (Fel uchod)

Unawd: Unwn yng nghanu yr engyl o’r nef,
Pawb: Tangnefedd i ddynion pob gwlad a thref.
Unawd: Gogoniant i Dduw yw ei neges o fry,
Pawb: “Fe anwyd Mab bychan yn Geidwad i ni.”

(Unawd: Clywch glychau Bethle’m yn atsain drwy’r nos,
(Côr: Clywch, Clywch, Clywch, Clywch,
(Unawd: Fe anwyd yr Iesu ym Methle’m dref.
(Côr: A……..., A……., A……., A……....,
(Unawd: Clychau’r Nadolig sy’n seinio drwy’r byd,
(Côr: Clywch, Clywch, Clywch, Clywch,
Pawb: Llawenydd sy’n llenwi’r holl ddaear a’r Nef.

SEREN BETHLE’M

Draw yn ninas Dafydd gwelwyd seren dlos,
Gwena’n ddisglair uwch y llety llwm drwy’r nos.
Arwain ffordd i’r doethion at faban yn ei grud.
Plygu wnaethant hwy a chyfarch Ceidwad y Byd.

Cytgan:

Seren Bethl’em gwena arnom
Gloywa’r byd a’th olau gwiw,
Dangos i ni’r preseb hynod,
Dangos i ni’r ffordd i fyw.

Draw yn ninas Dafydd safai seren aur,
Yno’n dathlu man y geni Crist fab Mair.
Achub dyn o’i bechod yw bwriad Duw yn awr,
Gyda gobaith fe gawn garu Anrheg mor fawr.

Cytgan:

Seren Bethl’em gwena arnom
Gloywa’r byd a’th olau gwiw,
Dangos i ni’r preseb hynod,
Dangos i ni’r ffordd i fyw.
Dangos i ni’r ffordd i fyw.

GWYL Y BABAN.

Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd fel un,
“Ha-le-liw-ia”.

Unawd (pennill cyfan):

Cytgan:
Daeth Gðyl y Baban â gwên ‘nôl i’r byd,
Deuwch, cenwch, clodforwch,
Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd fel un,
“Ha-le-liw-ia”.

Unawd (pennill cyfan):
Gwyrth a rhyfeddod y seren fawr glir
Yn arwain yr heol i ni,
At breseb y baban, y plentyn bach tirion
A ddaeth yn waredwr i ti ac i mi.

Cytgan:

Côr:
Tri o’r Dwyrain yn plygu eu glin,
A’u hoffrwm i’r babi yn ddrud.
Ond O! dyma offrwm i ni gan y babi,
Yr offrwm o heddwch i’r byd.

Cytgan:

Unawd/Côr:

Ww, Ww, Ww, Ww,
Dwy fil o flynyddoedd yn ôl,
Ww, Ww, Ww, Ww,
Y cariad adawodd y babi ar ôl

Pawb:

Daeth Gðyl y Baban â gwên ‘nôl i’r byd,
Deuwch, cenwch, clodforwch,
Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd fel un,
“Ha-le-liw-ia”.
Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd fel un,
“Ha-le-liw-ia”.

UN SEREN WEN

Un seren wen uwchben y byd
Yn gloywi’r llwybrau at y crud,
Un Gabriel ar noson fwyn
Yn oedi dros lechweddau’r Ðyn;
Un Joseff yno gyda Mair,
Un baban annwyl yn y gwair.

Un brenin doeth ag aur yn rhodd
Yn teithio at y crud o’i fodd.
Un arall ddaw ar nos o gân
 thus yn anrheg i’r un glân;
Un rhoddwr hwel o’r dwyrain draw,
Myrr i’r Iesu yn ei law.

O un i un dros erwau’r nos,
Y daw’r bugeiliaid tua’r rhos,
I’r llety llwm ym Methlehem
Yng ngolau’r seren glaer fel gêm.
I weld un plentyn yn ei grud
Un baban bach yn Geidwad byd.

NADOLIG

Mae stabal ymhob calon,
heno mae praidd ymhob bron,
ymhob dyn mae mab ei dad
heddiw’n gorwedd mewn cariad;
ymhob Mair mae’r Gair yn gân
a’i baich yn geidwad bychan.

Hwnt i’r tinsel fe weli
ddydd penblwydd dy Arglwydd di.
O bell daw’r doeth yn ddi-baid,
a gweli’r holl fugeiliaid
eto’n llu, a phlentyn llon
yng nghôl y côr angylion.

Tyrd o’r nos yn agosach
gyda chân i’r baban bach,
tyrd i stabal y galon,
a thyrd draw â’r alaw hon
i ninnau roi yn yr Ðyl
hosanna i’r Iesu annwyl.

CERDDAF Y STRYDOEDD TYWYLL

Unawd:

Cerddaf y strydoedd tywyll,
Chwiliaf am loches glyd.
Wedi siwrnai mor faith
Dros fynydd-dir a phaith
Wedi’u cloi mae y drysau mhob stryd.
Trymder sy’n llenwi ‘nghalon,
Ingol yw ’nghorff a gwan;
‘Nawr nid oes gwely i orffwys fy mhen,
Fy ngwrthod a gaf ymhob mân.

Cytgan:

Mair paid gofidio, mae Duw gyda thi;
Ti gei nerth ganddo Ef;
Cest dy ddewis yn fam yr Imaniwel,
Ceidwad y byd
A Brenin ar ddaear a Nef.

Unawd:

Neithiwr mi gefais freuddwyd -
Beth oedd ei ystyr hi?
‘Roedd y neges yn glir,
Ond os oedd hi yn wir,
Yna pam y digwyddodd i mi?
Soniodd am eni Ceidwad –
Clywais y geiriau’n syn;
Mab y Goruchaf yn blentyn i mi!
Arswydaf wrth feddwl am hyn.

Cytgan:

Mair paid gofidio, mae Duw gyda thi;
Ti gei nerth ganddo Ef;
Cest dy ddewis yn fam yr Imaniwel,
Ceidwad y byd
A Brenin ar ddaear a Nef.
Mam yr Imaniwel, Ceidwad y byd
A Brenin ar ddaear a Nef.


FFARWEL NED PUW

Wel, dyma’r bore gorau’i gyd
Fe roed i’r byd wybodaeth
O eni’r gwaraidd Iesu gwyn,
I’n dwyn o’n syn gamsyniaeth;
Fe ddaeth ein Brenin Mawr a’n Brawd
Mewn gwisg o gnawd genedig;
Rhyfeddol gweled Mab Duw Nêr
Ar fronnau pêr forwynig:
Rhyfeddod na dderfydd yw hon yn dragywydd,
O rhoed y Diddanydd ar bob dawn adenydd,
Llawenydd a gwenydd i ganu;
Nid caniad plygeiniol a’i naws yn hanesiol
I’r Enaid crediniol sy’n fwyniant digonol,
Ond dwyfol ddewisol wedd Iesu.


RHYFEDDOD AR FOREUDDYDD

Rhyfeddod ar foreuddydd fe gaed Gwaredydd gwiw,
Ym Methlem ymddangosodd a Christ yr Arglwydd yw.
Mynegwyd i’r bugeiliaid mor rhyfedd oedd y drych;
Cael Tad o Dragwyddoldeb mewn preseb lle pôr ych.
Gadawodd sedd ei Dad a gwynfyd nefol wlad
A dod mor isel, lle pôr anifel, o ryfedd gariad rhad.
Y doethion wiwgu iaith i geisio’r Iesu ddaeth,
Caent lewyrch seren gain yn y dwyren
i’w harwen ar eu taith.

Mynegwyd i’r bugeiliaid yn awr newyddion da,
Fe gafwyd balm Gilead i’n clwyfau, a’n gwellha.
Disgynnodd o’r uchelder i’r byd ar lafar lef:
“Tangnefedd ar y ddaear! Gogoniant i Dduw Nef!”
Fe ddeuodd yn y cnawd ein Brenin gwiw a’n Brawd,
Heb grud na pharlwr fe ddaeth ein Crewr o’r wyryf
yn dylawd.
Addewid Eden gaeth, i’r byd mewn pryd y daeth
I ddatod hudol waith y Diafol, oedd diben mawr ei daith.

SUO GÂN

Huna blentyn ar fy mynwes,
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy’n dyn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha’ddim amharu’th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam;
Huna’n dawel annwyl blentyn,
Huna’n fwyn ar fron dy fam.

Huna’n dawel heno huna,
Huna’n fwyn y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu’n dirion yn dy hun?
Ai angylion fry sy’n gwenu
Arnat ti yn gwenu’n llon?
Tithau’n gwenu’n ôl dan huno,
Huno’n dawel ar fy mron?

 

A GWNAETH Y SÊR

A dywedodd, dywedodd Duw,
“Bydded Goleuni”. A bu Goleuni.

Yna dywedodd Duw. “Bydded goleuadau yn
ffurfafen y nefoedd i wahanu’r dydd oddiwrth
y nos.” Ac felly bu.

Gwnaeth Duw y ddau olau mawr a
gwnaeth y sêr. Ac fe welodd Duw fod hyn yn
dda. “A bu Goleuni.”

A gwnaeth y sêr.


 
 
 
 
Bois y Castell 2003 | Aelodau yn unig
cyswllt@boisycastell.org
Diweddarwyd: 19/5/04