Baner Cymru

Bois y Castell

Logo Bois y Castell
hafan
cyswllt
perfformiadau
cwrdd â'r côr
dolenni
cefndir
Tudalen Aelodau
CLWB CERDDED BOIS Y CASTELL
Clwb Cerdded Bois y Castell


Taith Nesaf: Dyffryn Euas (Eywas), Y Fenni, Hydref 18fed

Dilyn ôl traed Dewi Sant, Gerallt Gymro a’r myneich mewn cwm diarffordd, hanesyddol a phrydferth. Canlyn y ffin Cenedlaethol a Chlawdd Offa am rhan o’r daith.Noson gymdeithasol yn y Fenni neu’r Gelli.


A. Cefndir

Sefydlwyd y clwb gan griw o’r bechgyn oedd â’u bryd ar fwynhau:

> cerdded ym mhrydferthwch rhai o lecynnau mwyaf diarffordd deheudir a chanolbarth Cymru;
> natur, cyfoeth diwylliannol, hanesyddol, daearyddol a daearegol y cyrchfannau;
> pryd o fwyd a noson gymdeithasol ar ddiwedd y daith.

Mae’r teithiau’n amrywio rhwng 8 – 12 milltir ar gyfartaledd, sy’n ddigon fel arfer i fagu rhyw gymaint o syched a chwant bwyd. Yn anorfod, mae’r noson yn datblygu’n gyfle i ganu rhai o ffefrynnau’r côr, ac i gyflwyno ein harlwy cerddorol i gynulleidfaoedd newydd a diarwybod. Cawsom groeso mawr fwy nag unwaith mewn ardaloedd seisnigedig, gyda’r brodorion lleol yn ailddarganfod eu cysylltiadau Cymreig wedi bloedd o ganu angerddol gan y cerddwyr!

B. Teithiau Diweddar

Ardal
Noson Gymdeithasol
Sylwadau
Tyddewi/Porthgain Y Sloop Diwrnod clir a gwefreiddiol
Gwyr Llanrhidian Cylchdaith bleserus mewn ardal o harddwch
Preseli
Tafarn y Sinc a thafarn Besi

Eira ar y copaon, gwyntog ond braf
Bannau Brycheiniog Tal y Bont ar Wysg
Taith gofiadwy yn cyrchu copaon uchaf y de. Cafwyd croeso mawr gan y trigolion
Mynyddoedd Duon Y Gelli Gandryll Eiira a niwl ar y gefnen, ond croeso gwresog iawn yn y dref
Dinas Mawddwy Dolgellau (wedi’r cyngerdd)
Hir ond pleserus. Rhaedr a chwm godidog i orffen
Cadair Idris
Ram Llambed
Artaith wlyb ond bwyd da y Ram yn codi’r ysbryd

Carn Ingli/ Cwm Gwaun

Trefdraeth/Tafarn Sinc

Môr, dyffryn a mynydd mewn taith go hir. Bwyd da yn coroni’r diwrnod

C. Teithiau ar gyfer y Dyfodol

Dyma ychydig o awgrymiadau. Croesawir rhagor o syniadau!

Ardal
Noson Gymdeithasol
Sylwadau
Cwm Nedd Pontneddfechan Rhaeadrau a cheunentydd rhagorol
Pumlumon a’r Hyddgen Cwm Rheidol Safle brwydr Glyndwr
Cwm Elan Rhaeadr Gwy
Bro boddi’r dyffrynoedd
Ystrad Fflur/Llynnoedd Teifi Tregaron
Cyfoeth Hanesyddol
Cwm Irfon/Abergwesyn/ Soar y Mynydd Llanwrtyd
Treftadaeth Crefyddol / Bro Byddin Rhyddid Cymru
Mynydd Llangatwg Crughywel
Cefnen ac ogofau enwog
Yr Epynt
Llanfair ym Muallt
Cerdded diarffordd ac arunig

Taith i’r Gogledd

Sadwrn – Cefnen Nantlle neu’r Wyddfa neu Ddyffryn Ogwen

Sul – Moel Siabod neu’r Cnicht

 


Beddgelert neu Maentwrog
Cyfle i flasu uchafbwyntiau’r Parc Cenedlaethol a noson mewn gwesty/hostel ieuenctid


Croeso i unrhyw un ymuno! Gwrandawer am y cyhoeddiadau yn yr ymarferion.

Yn y dyfodol, gobeithir ychwanegu at naws y rhan hon o’r wefan trwy ychwanegu rhai argraffiadau o’r teithiau trwy gyfrwng sylwadau’r cerddwyr. Byddwn hefyd yn mynd ati i gofnodi’r teithiau yn ffotograffig.

 

Rhai Lluniau:

 

Awst 2002 - Cadair Idris

Awst 2002 - Cadair Idris

Ebrill 2002 - Copa Waunoer

Ebrill 2002 - Copa Waunoer - Taith Waunoer i Ddinas Mawddwy

Ebrill 2002 - Waunoer i Ddinas Mawddwy

Ebrill 2002 - Waunoer i Ddinas Mawddwy

Ebrill 2002 - Waunoer i Ddinas Mawddwy

Ebrill 2002 - Waunoer i Ddinas Mawddwy

Hydref 2001 - Llwybr Arfordir Sir Benfro

Hydref 2001 - Llwybr yr Arfordir - Tyddewi i Borthgain

Ionawr 2002 - Copa Moel Cwmcerwyn

Ionawr 2002 - Ar gopa Moel Cwmcerwyn. Taith Crymych i Rosebush ar draws y Preseli

Ionawr 2003 - Pengeuffordd i'r Gelli

Ionawr 2003 - Hay Bluff ar y Mynyddoedd Du. Taith Pengeuffordd i'r Gelli

Mehefin 2002 - Storey Arms i Dalybont ar Wysg

Mehefin 2002 - Penyfan, Bannau Brycheiniog. Taith Storey Arms i Dalybont ar Wysg

Mehefin 2002 - Storey Arms

Mehefin 2002 - Penyfan, Bannau Brycheiniog. Taith Storey Arms i Dalybont ar Wysg

Chwefror 2003 - Carn Ingli

Chwefror 2003 - Carn Ingli

Chwefror 2003 - Carn Ingli

Chwefror 2003 - Carn Ingli

Ionawr 2003 - Pengeuffordd i'r Gelli

Ionawr 2003 - Twmpa ar y Mynyddoedd Du (yn y niwl). Taith Pengeuffordd i'r Gelli

Mehefin 2002 - Storey Arms

Mehefin 2002 - Storey Arms i Dalybont ar Wysg

 

 

 
Bois y Castell 2003 | Aelodau yn unig
cyswllt@boisycastell.org
Diweddarwyd: 10/10/03