| 
Ganwyd i deulu sy’n ffermio yng ngogledd
ddwyrain Cymru (ardal Dinbych). Roedd ei thaid ar ochr ei thad yn
gerddorol fel yn wir mae ei mam.
Gwnaeth gystadlu ac ennill llawer fel plentyn
a thra yn ei harddegau mewn eisteddfodau mawr a bach ac yn genedlaethol
– yn canu (clasurol, gwerin a cherdd dant) a hefyd yn perfformio
ar y delyn.
Enillodd hefyd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
ac am nifer o flynyddoedd gwahoddwyd hi i ganu yn seremoni agoriadol
yr eisteddfod honno.
Mae wedi teithio tramor fel unawdydd gwâdd
gyda gwahanol gorau ac yn canu’r delyn gyda cherddorfa ieuenctid.
Yn wir mae wedi ennill rhan fwyaf o wobrau yn yr
eisteddfod genedlaethol (a’r Urdd), nid yn unig fel unawdydd,
ond hefyd fel rhan o ddeuawd a thriawd cerdd dant. Bellach mae wedi
troi at arwain a hyfforddi.
Tra’n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor,
arweiniodd nifer o gorau o fyfyrwyr i lwyddiant mewn cystadlaethau
cenedlaethol megis yr Wyl Gerdd Dant
|
|
Yn 1992 fe briododd gan ddechrau
ar ei gyrfa fel athrawes ysgol gynradd.Mae ei chorau plant yn aml
yn cael llwyddiant cenedlaethol fel yn wir nifer o’i disgyblion
preifat.
Bellach mae ganddi ddwy ferch – un yn unarddeg
oed a’r llall yn wythoed. Oherwydd galwadau teulu bellach
mae’n athrawes fro yn dysgu Cymraeg a cherdd.
Mae ganddi gymhwysterau gradd wyth mewn piano,
telyn a llais yn ogystal â gradd anrhydedd o Brifysgol Cymru,
Bangor.
Mae’n mwynhau trefnu cerddoriaeth draddodiadol
ac wedi cyfansoddi darnau llais ar gyfer plant.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Nia wedi bod
yn beirniadu ar lefel leol a chenedlaethol yn ogystal ag ymddangos
fel ‘beirniad answyddogol’ yn ystod amli eisteddfod
genedlaethol, ar radio a theledu.
Er nad yw bellach yn cystadlu fel unawdydd, mae’n
dal i fwynhau perfformio mewn cyngherddau, ar raglenni cerdd ar
y teledu a gyda’r côr.

|
ARWYN EVANS – trysorydd

Mae Arwyn yn gweithio i Adran Gyllid Cyngor Sir Gaerfyrddin. Yn
ogystal â dal swydd gyfrifol mae hefyd yn dal nifer o swyddi
gwirfoddol o fewn y gymuned. Mae’n glerc i gyngor lleol, yn
flaenor ac ysgrifennydd y capel a’r ofalaeth, yn drysorydd
Menter Iaith Bro Dinefwr, ac ef oedd trysorydd Eisteddfod Genedlaethol
Dinefwr yn 1996 pan ddaeth hi i ardal Llandeilo. Mae ef a’i
wraig (Shân Evans) yn gefnogwyr ymarferol a gweithgar i nifer
fawr o fudiadau gwirfoddol yn yr ardal. Mae ganddynt un mab sy’n
gweithio yng Nghaerdydd ac un ferch sy’n astudio yn y Brifysgol
yng Nghaerdydd.
.
|
GARETH VAUGHAN JONES – ysgrifennydd

Mae Gareth yn byw yn Llandeilo gyda’i wraig
a dau o fechgyn ers dros ddeng mlynedd. Mae’n gweithio i gwmni
Teledu Telesgôp.
Cafodd Gareth ei fagu i deulu cerddorol ym Mlaenau
Ffestiniog. Yn y dyddiau cynnar roedd yn gyfarwydd â chanu
ar lwyfannau steddfodau capeli, y gymanfa ganu a’r Band of
Hope wrth gwrs!!
Gan fod ei dad yn unawdydd ac yn arweinydd côr
roedd yn gyfarwydd iawn â chanu corawl hyd yn oed pan oedd
yn y crud! Yr atgof cyntaf sydd ganddo yw gwrando ar gôr Y
Fyddin Goch o Rwsia pan oedd yn bump oed yn dawnsio a chanu nerth
eu pennau yn Lerpwl. Dyna berfformiad sy’n aros yn y cof am
byth.
Er nad yw’n offerynwr fel aelodau eraill
o’r teulu mae wedi mwynhau canu erioed. Dysgodd ganu bas yn
y ‘deep end’ fel petai pan ddechreuodd ganu gyda Chôr
y Brythoniaid a chael ei hun yn canu ochr yn ochr ag enillydd y
Rhuban Glas, John Llewellyn Thomas – dyw ei glust chwith byth
wedi bod yr un fath ers hynny! Er na chafodd lwyddiant yn y genedlaethol
gyda’r Brythoniaid cafodd lawer iawn o hwyl a phrofiad gwerthfawr
iawn.
|
SHÂN EVANS – cynorthwyo gyda
throi’r tudalennau

Mae Shân yn briod ag Arwyn Evans y trysorydd.
Yn ogystal â bod â’r cyfrifoldeb o droi’r
tudalennau mewn cyngherddau a chystadlaethau, mae hefyd yn gofalu
yn wythnosol am blant Nia Clwyd er mwyn rhyddhau ei gwr i ganu yn
y côr.
Mae Shân fel ei gwr yn drefnus ac yn drefnydd effeithiol gan
gefnogi yn ymarferol nifer o fudiadau a digwyddiadau yn ardal Llandeilo.
|
ARWYN DAVIES - arweinydd nosweithiau/cyngherddau

Mae Arwyn Davies yn ffermwr a wnaeth ymddeol yn gynnar. Yn ogystal
a llenwi ei amser gyda gwaith gwirfoddol mae'n Ynad Heddwch ac yn
weithagr mewn sawl cymdeithas yn yr ardal. Pan oedd yn ifancach
bu'n weithagr iawn gyda Mudiad y Ffermwyr Ieuanc, ac yn ogystal
a dal nifer o swyddi o fewn y mudiad hwnnw, bu hefyd yn teithio
yn eu cwmni, gan gynnwys taith o rai misoedd i Awstralia. Bu hefyd
am nifer o flynyddoedd yn un o griw y noson lawen yn Glansefin ac
mae wedi cyflwyno cyngherddau a nosweithiau llawen led led Cymru.
Am gyfnod fe fu'n darlledu ar faterion amaethyddol. Bellach mae'n
un o griw o sylwebyddion yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd bob blwyddyn.
Mae ganddo stor o jocs - addas ar gyfer pob cynulleidfa. Mae'n briod
gyda Jean ac mae ganddynt dri o blant a bellach hefyd maen nhw'n
ddadcu a mamgu balch iawn. |