Baner Cymru

Bois y Castell

Logo Bois y Castell
hafan
cyswllt
cwrdd â'r côr
dolenni
cefndir
English
Cefndir
Llun y côr
Sefydlwyd y côr er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yn Llandeilo nôl yn 1996. O dan arweinyddiaeth Nia Clwyd a chyfeiliant Rhiannon Griffiths, fe sicrhawyd yr ail wobr mewn cystadleuaeth ffyrnig gan gorau cydnabyddiedig. Ers hynny, mae’r côr wedi ennill ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Penybont-ar-ogwr 1998 a Sir Fôn 1999). Hefyd maen nhw wedi ennill yn yr Wyl Gerdd Dant ddwywaith. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000, daeth y côr yn 3ydd yn y gystadleuaeth corau meibion i gorau o dan 40 o leisiau. Roedd hyn yn gryn gyrhaeddiad gan fod yna naw o gorau profiadol iawn yn cystadlu.
 
Yn Yr Ardd Fotaneg, Llanarthne
Ym Mharc Gelli Aur

Mae aelodau’r côr yn lleol i ardal Llandeilo, Caerfyrddin a chwm Gwendraeth. Mae’r ‘bois’ o ran oedran yn ymestyn o’r 20’au cynnar i ganol oed hwyr (65 mlwydd oed). Mae rhai yn medru darllen cerddoriaeth ond nid yw’r mwyafrif wedi derbyn hyfforddiant cerddorol swyddogol. Yr hyn sydd gan holl aelodau’r côr yw syniad cryf o undod a pharodrwydd i weithio’n galed er mwyn cyrraedd y nod.

Llynedd (2002), lansiodd y côr ei CD cyntaf. Mae yna amrywiaeth o ganeuon ar CD “Gwynt yr Hwyr” – gan gynnwys gwaith cyfoes, caneuon gwerin traddodiadol, a darnau cerdd dant. Daw teitl y CD o gân a gomisiynwyd yn arbennig gan y côr, y geiriau gan y Prifardd poblogaidd Tudur Dylan Jones (un o faswyr gwaelod cadarn y côr). Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robat Arwyn – cyfansoddwr adnabyddus iawn. Cân serch yw “Gwynt yr Hwyr” sy’n ddarn sydd er yn ymestyn y côr, yn gân hyfryd i wrando arni. Recordiwyd y CD gan gwmni recordio mwyaf profiadol Cymru – Recordiau Sain.

 

Pwy yw aelodau’r côr? Mae yna nifer o athrawon, ffermwyr, dau fferyllydd, ymgynghorwyr addysg, actorion, cynhyrchwyr teledu, gweinidog, gyrrwr lorri, darlithwyr, gweithwyr sifil, prifathrawon ac athrawon sydd wedi ymddeol yn ifanc, arbenigwyr IT, Ynadon heddwch, heddweision, gweithwyr llywodraeth leol, a nifer sydd mewn swyddi amrywiol eraill… pob un yn profi fod yma draws-doriad o gymdeithas yr ardal. Drwy’r côr ehangwyd adnabyddiaeth a cadarnhawyd cyfeillgarwch newydd. Mae’n wir i ddweud fod gwragedd a phartneriaid aelodau’r côr wedi bod yn hynod o gefnogol i’r côr ers ei sefydlu, nid yn unig drwy eu presenoldeb mewn cyngherddau a chystadlaethau ond hefyd yn arbennig wrth drefnu digwyddiadau i godi arian ac wrth gymdeithasu.

 Eisteddfod Genedlaethol 1998
Eisteddfod Genedlaethol 1999
Clawr y  CD

Mae ‘Bois y Castell’ wedi ymddangos a pherfformio ar nifer o raglenni teledu a radio, yn bennaf ar S4C a’r BBC ond hefyd ar Discovery. Fe drefnwyd perfformiad arbennig ym mis Rhagfyr 2000 i ddathlu ‘r mileniwm, drwy berfformio gyda Shân Cothi, Catherine Ayers, Curiad, Lleisiau Teilo a chôr Ysgol Gymraeg Teilo Sant. Fe berfformiwyd carolau hen a newydd, gan gynnwys rhai a gomisiynwyd yn arbennig a hynny i gynulleidfa o dros bum cant o bobl. Defnyddiwyd goleuadau theatrig a chafod y perfformiad ei ganmnol yn fawr.

Yn 2003 fe enillon nhw le yn rownd derfynol adran corau meibion o gystadleuaeth CÔR CYMRU. Dangoswyd y gystadleuaeth yn fyw ar S4C digidol gydag uchafbwyntiau ar S4C.


Bois y Castell 2003 | Aelodau yn unig
cyswllt@boisycastell.org
Diweddarwyd: 30/3/05